Digwyddiadau i ddod
Amdanom ni
A ydych yn anelu at adeiladu awyrennau a rocedi sy’n chwyddo trwy’r awyr? Neu a ydych am wthio terfyn y corff dynol? Ydych? Yna mae gan y Gymdeithas hon rhywbeth i’w cynnig Am ddylunio adeiladau uchel sy'n cyffwrdd â’r awyr? dim problem.
Nod y gymdeithas hon hw i uno myfyrwyr o bob disgyblaeth tu fewn i goleg peirianneg Prifysgol Abertawe. Rydym yn darparu amgylchedd cyfeillgar ar gyfer holl fyfyrwyr ar unrhyw lefel i gwrdd ag eraill a rhannu eu hangerdd yn ogystal â chyfle iddynt cwrdd â rhwydwaith proffesiynol y maes. Pob blwyddyn rydym yn gweithio'n agos gyda chymdeithasau eraill yn ogystal â chwmnïau proffesiynol i ddarparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cymdeithasol a sgyrsiau addysgol ar gyger amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a lefelau. Rydym hefyd yn cynnal cynllun mentora ochr yn ochr â’r Coleg peirianneg sy’n cysylltu â myfyrwyr 1 a 2 gyda myfyrwyr hŷn er mwyn annog y rhannu o wybodaeth. Eleni mae gennym nifer o ddigwyddiadau ar y gweill yn barod. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o deithiau diwydiannol, seminarau proffesiynol yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol; gan gynnwys ein BBQ traeth anhygoel a chystadleuaeth peirianneg chwaraeon rhyngddisgyblaethol. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymuno â’r gymdeithas ac yn edrych ar y calendr digwyddiad sydd ar ochr dde’r wefan. I ddarganfod mwy amdanom ni, dewch i’n cwrdd yn Ffair y glas neu cysylltwch â ni. |
|
Dyma rai lluniau o ddigwyddiadau’r gorffennol:
|
|
|
How to find us?
Cymorth
Er nad yw’r grwpiau canlynol yn cael eu rhedeg gan y gymdeithas, maent yn ddefnyddiol wrth geisio dod o hyd i gymorth ar Facebook.
Aelodau pwyllgor 2016/2017
- Llywydd - Sophie Hawking
- Is-Lywydd - Sarah Harris
- Ysgrifennydd - Thu Ya Win
- Trysorydd - Taylor Mcardle
- Cydlynydd datblygiad proffesiynol - Sarah-Jane Potts
Cysylltiadau â chwmniau
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn edrych am gysylltiadau diwydiannol er mwyn gallu trefnu seminarau,ymweliadau a nawdd. E-bostiwch ni os oes gennych ddiddordeb.
Partneriaid
|
|
|
© 2016 Website built by Thu Ya Win (@Tyw77).
|